Traditional Welsh Folk — Ar Lan y Môr

Ar lan y môr mae rhosys cochion Ar lan y môr mae lilis gwynion Ar lan y môr mae 'nghariad inne Yn cysgu'r nos a chodi'r bore Ar lan y môr mae carreg wastad Lle bûm yn siarad gair â'm cariad O amgylch hon fe dyf y lili Ac ambell gangen o rosmari Ar lan y môr mae cerrig gleision Ar lan y môr mae blodau'r meibion Ar lan y môr mae pob rinweddau Ar lan y môr mae nghariad innau Llawn yw'r môr o swnd a chegryn Llawn yw'r wy o wyn a melyn Llawn yw'r coed o ddail a blode Llawn o gariad merch wyf inne Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie Mor hardd yw natur ym Mehefin Ond harddach fyth yw wyneb Elin


Other Traditional Welsh Folk songs:
all Traditional Welsh Folk songs all songs from 2019